Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mawrth, 8
Chwefror 2022
Amser y
cyfarfod: 13.30
------
Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.
Mae'r Llywydd wedi penderfynu y bydd Aelodau, yn unol â Rheol Sefydlog 34.14A-D, yn gallu pleidleisio o unrhyw leoliad drwy ddull electronig.
1 Cwestiynau i'r Prif Weinidog
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.
2 Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
(30 munud)
Gweld y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
3 Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Covid Hir
(45 munud)
4 Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Cap ar Brisiau Ynni
(45 munud)
5 Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil Pensiynau’r Gwasanaeth Cyhoeddus a Swyddi Barnwrol
(15 munud)
NDM7907 Mick Antoniw (Pontypridd)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Pensiynau a Swyddi Barnwrol Y Gwasanaeth Cyhoeddus i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd.
Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 11 Awst 2021 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.
Bil Pensiynau A Swyddi Barnwrol Y Gwasanaeth Cyhoeddus (Saesneg yn unig)
Dogfennau Ategol
Adroddiad y
Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol
Adroddiad y
Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r
Cyfansoddiad
6 Dadl: Cyllideb Ddrafft 2022-2023
(120 munud)
NDM7908 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 20.12:
Yn nodi'r Gyllideb Ddrafft ar gyfer blwyddyn ariannol 2022-23 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol ar 20 Rhagfyr 2021.
Dogfennau
Ategol:
Adroddiad y
Pwyllgor Cyllid
Adroddiad y
Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol
Adroddiad y
Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Adroddiad y
Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai
Adroddiad
Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig
Adroddiad y
Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg
Adroddiad y
Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a
Chysylltiadau Rhyngwladol
Adroddiad y
Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith
Adroddiad y
Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg
Gohebiaeth gan y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r
Cyfansoddiad
Cyflwynwyd y gwelliant canlynol:
Gwelliant 1 - Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod y Senedd:
Yn credu bod Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2022-23 yn methu â chyflawni blaenoriaethau pobl Cymru.
7 Cyfnod pleidleisio
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mercher, 9 Chwefror 2022